Advanced Search

Rheoliadau (Ffurflenni a Dogfenni Cymraeg) Cwmnïau (Rhif 2) 1995

Subscribe to a Global-Regulation Premium Membership Today!

Key Benefits:

Subscribe Now for only USD$40 per month.
Statutory Instruments
1995 hif 1480

CWMNÏAU
Rheoliadau (Ffurflenni a Dogfenni Cymraeg) Cwmnïau (Rhif 2) 1995

Gwnaed
31 Mai 1995

Yn dod i rym
1 Gorffennaf 1995

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 652A(2), 652D(6) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985(1), fel y'u hestynnwyd gan adran 26 (3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ynghyd â phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

1.  Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni a Dogfenni Cymraeg) Cwmnïau (Rhif 2) 1995, a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 1995.

2.  Mae ffurflenni 652aCYM a 652cCYM, y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflenni sydd wedi eu pennu at ddibenion adrannau 652A(2) a 652D(6) o Ddeddf Cwmnïau 1985.

Wendy E.M. Alexander,
Swyddog Gradd 5 yn yr
Adran Masnach a Diwydiant
31 Mai 1995

Rheoliad 2
ATODLEN

Explanatory Note

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu dwy ffurflen, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sydd i'w defnyddio at ddibenion y darpariaethau newydd i gyfarwyddwyr cwmni preifat sydd heb fasnachu wneud cais i'r cofrestrydd cwmnïau am i enw'r cwmni gael ei ddileu o'r gofrestr. Mae'r darpariaethau newydd i gael eu cyflwyno i Ddeddf Cwmnïau 1985 gan adran 13(1) o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (c. 40) a chan Atodlen 5 i'r Ddeddf honno. Daw'r ffurflenni i rym ar 1 Gorffennaf 1995, sef dyddiad gweithredu darpariaethau perthnasol Deddf 1994. Y ffurflenni yw ffurflen 652aCYM (cais am ddileu o'r gofrestr) a 652cCYM (tynnu'n ôl gais am ddileu o'r gofrestr).


(1)
1985 c. 6; arfaethir cyflwyno adrannau 652A i F gan adran 13(1) o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (c. 40) a chan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 5 i'r Ddeddf honno. Gweler diffiniad “pennu” yn adran 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985.

(2)
1993 c. 38.