The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998

Link to law: http://www.legislation.gov.uk/uksi/1998/1113/made/data.htm?wrap=true
Published: 1998-02-26

Statutory Instruments
1998 No. 1113

HOUSING, ENGLAND AND WALES
WALES
The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998

Made
26th February 1998

Coming into force
1st April 1998

The Secretary of State for Wales in exercise of the powers conferred on him by sections 2(2) and (4), 101(1) and 146(1) and (2) of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996(2) as extended by section 26(3) of the Welsh Language Act 1993(3) and of all other powers enabling him in that behalf, hereby makes the following Regulations:—

Citation, commencement and interpretation

1.—(1) These Regulations may be cited as the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998 and shall come into force on 1st April 1998.

(2) In these Regulations “the principal Regulations” means the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) Regulations 1996(4).

Forms of application for grant

2.  The form set out in the Schedule to these Regulations is hereby prescribed as a version in Welsh which may be used instead of the corresponding form in the Schedule to the principal Regulations for the purposes set out in regulation 2 of the principal Regulations.

Particulars for application for grant

3.  The particulars prescribed under section 2(2)(d) of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996 in respect of any application falling within regulation 2 are the particulars required for that application by the form set out in the Schedule.

Application of Regulations

4.  These Regulations shall not have effect in relation to applications for a grant made before 1st April 1998.

Signed by authority of the Secretary of State for Wales

Win Griffiths
Parliamentary Under Secretary of State, Welsh Office
26th February 1998

Regulation 2.
SCHEDULE 1

“CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

Yn y cyfarwyddiadau hyn a'r ffurflen a'r nodiadau sydd ynghlwm wrthynt, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio Tai 1996 ac, oni nodir fel arall, mae pob cyfeiriad at adrannau etc yn gyfeiriadau at adrannau etc yn y Ddeddf.

Dyma'r ffurflen sydd i'w defnyddio os ydych yn gwneud un o'r ceisiadau canlyol—

Grant atgyweirio

cais perchennog ynghyd â thystysgrif o berchen-feddiant(5); neu

gais tenant.

Grant cyfleusterau i'r anabl

Unrhyw gais, heblaw cais gan landlord(6).

Grant rhannau cyffredin

Cais tenantiaid (ni waeth a yw'r landlord yn gwneud cais hefyd fel landlord sy'n cymryd rhan neu beidio)(7).

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen hon, anfonwch hi i'r Cyngor.

Os nad ydych yn sicr sut i ateb unrhyw un o'r cwestiynau hyn, cysylltwch â:

(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt yn y Cyngor)

NODIADAU

Yn y nodiadau hyn, ysytr ‘‘y Ddeddf'' yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac, oni nodir fel arall, mae pob cyfeiriad at adrannau etc yn gyfeiriad at adrannau etc yn y Ddeddf.

1.  Os cwmni neu gorff tebyg yw'r ceisydd, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig).

2.  Ni allwch wneud cais am grant oni bai eich bod yn 18 oed neu drosodd ar ddyddiad eich cais. Yn achos cyd-geiswyr, caiff unrhyw geisydd sydd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais ei hepgor. Gweler adran 3(1).

3.  Ni chaniateir i'r Cyngor dalu grant i rywun sy'n “berson o wlad dramor” o fewn ystyr rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971 fel y'i diwygiwyd): rheoliad 3 o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).

OS bu i chi ateb “Ydwyf” neu “Ydyw” i gwestiwn 1.3, ni ddylech fod yn gwneud cais am grant. Os na allwch ateb “Nac Ydwyf” neu “Nac ydyw” i'r cwestiwn hwn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn.

Gellir crynhoi rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 fel a ganlyn:

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), “person o wlad dramor” yw person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn rheolau mewnfudo'r Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r canlynol:

(a)nad oes, neu nad oes angen, unrhyw alw am gael arian cyhoeddus, neu

(b)na chodir unrhyw dâl ar arian cyhoeddus,

yn ystod y caniatâd cyfyngedig hwnnw.

(2) Nid yw “person o wlad dramor” yn cynnwys person—

(a)sy'n ddinesydd un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropaeidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a lofnodwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 (Gorch. 9512), gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop a lofnodwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw; neu

(b)sydd, yn ystod unrhyw gyfnod o ganiatâd cyfyngedig, wedi'i gynnal/wedi'i chynnal ei hun heb droi at arian cyhoeddus ond sydd dros dro (h.y., am heb fod yn fwy na chyfanswm o 42 ddiwrnod yn ystod unrhyw gyfnod o ganiatâd cyfyngedig) heb arian am yr amharwyd ar daliadau iddo/iddi o dros y môr; ar y amod bod yna ddisgwyliad rhesymol y bydd ei gyflenwad/ei chyflenwad o arian yn cael ei adfer; neu

(c)sy'n chwilio am loches, hynny yw, person sydd wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig (heblaw wrth ail-ddod i mewn) o wlad y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin (h.y., y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd) yn gwneud cais am loches i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Ygrifennydd Gwladol yn cofnodi bod y cais hwnnw wedi'i wneud; neu

(d)sy'n dod yn geisydd am loches tra bo'n bresennol ym Mhrydain Fawr; neu

(e)sy'n fewnfudwr a noddir (gweler paragraff (3)(f) isod) a'r person neu'r personau a ymrwymodd i ddarparu ar gyfer ei gynhaliaeth/ei chynhaliaeth a llety wedi marw; neu

(f)sy'n cael cymhorthdal incwm; neu

(g)sy'n cael lwfans chwilio am waith sy'n seiliedig ar incwm.

(3) Mae “person o wlad dramor” yn cynnwys unrhyw berson, heblaw person y mae unrhyw un o is-baragraffau (c) i (g) paragraff (2) yn gymwys iddynt—

(a)sydd, yn sgil cael caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, wedi aros heb ganiatâd pellach y tu hwnt i'r amser a ganiatawyd gan y caniatâd; neu

(b)sy'n destun gorchymyn alltudio sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ymadael ac yn ei wahardd/ei gwahardd rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, ac eithrio lle gohiriwyd ei symud o'r Deyrnas Unedig yn ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu

(c)y bernir gan yr awdurdodau mewnfudo ei fod neu ei bod yn fewnfudwr anghyfreithlon sydd heb gael caniatâd wedyn i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig ac eithrio person y caniatawyd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol; neu

(d)sy'n ddinesydd un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i gwneud yn ofynnol iddynt ymadael â'r Deyrnas Unedig; neu

(e)nad yw fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ond ni chaiff unrhyw berson ei drin fel pe na bai fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)sy'n weithiwr at ddibenion Rheoliad (EEC) Rhif 1612/68 y Cyngor neu (EEC) Rhif 1251/70 neu'n berson sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Chyfeireb Rhif 68/360/EEC y Cyngor neu Rif 73/148/EEC; neu

(ii)sy'n ffoadur, h.y., yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o'r Confensiwn ynglŷn â Statws Ffoaduriaid (Gorch.9171).

(iii)y rhoddwyd caniatâd eithriadol iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu

(iv)sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) unchod; neu

(v)sy'n destun gorchymyn alltudio yn ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ymadael ac yn eu gwahardd rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, ac y gohiriwyd eu symud o'r Deyrnas Unedig yn ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu

(vi)y bernir gan yr awdurdodau mewnfudo eu bod yn fewnfudwr anghyfreithlon, na roddwyd caniatâd wedyn iddynt ddod i mewn nac aros yn y Deyrnas Unedig ond y caniatawyd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol; neu

(f)y rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn, neu aros, yn y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ymrwymiad a roddwyd gan berson arall neu bersonau eraill yn ysgrifenedig i fod yn gyfrifol am eu cynhaliaeth a'u llety; ac nad yw ef/hi wedi bod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf gan ddechrau o p'un bynnag yw'r olaf sef y dyddiad mynediad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymrwymiad mewn perthynas ag ef/hi; neu

(g)tra'u bod yn berson y mae paragraff (1) neu unrhyw un o is-baragraffau (a) i (d) ac (f) o'r paragraff hwn yn gymwys iddynt, sy'n cyflwyno cais i'r Ysgrifennydd Gwladol, sydd heb ei benderfynu'n derfynol, am loches o dan y Confensiwn mewn perthynas â Statws Ffoaduriaid.

4.  Mae'r mwyafrif o'r amodau cymhwyso ar gyfer grant atgyweirio, grant cyfleusterau i'r anabl a grant tai mewn aml-ddaliadaeth yn cael eu hepgor mewn perthynas â thir llan neu dŷ preswyl bywoliaeth eglwysig: gweler adran 95. Nid oes hepgoriad tebyg o'r amodau cymhwyso ar gyfer grant rhannau cyffredin.

Dylai cais landlord mewn perthynas â thŷ preswyl neu dir llan bywoliaeth eglwysig gael ei gyflwyno ar y ffurflen ar wahân ar gyfer ceisiadau landlordiaid, y gellir ei chael oddi wrth y Cyngor.

5.  Annedd sy'n uned ar wahân yw fflat, ni waeth a yw ar yr un llawr neu beidio, wedi'i gwahanu'n llorweddol oddi wrth ryw ran arall o'r adeilad.

6.  O dan adran 4, ni chaniateir i'r Cyngor ystyried cais am grant os cafodd yr eiddo ei adeiladu neu ei ddarparu trwy gyfrwng trosiad lai na 10 mlynedd yn ôl. Nid yw'r rheol gyffredinol hon yn gymwys lle bo'r cais yn gais am grant cyfleusterau i'r anabl.

7.  Mae hysbysiad o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1985 yn hysbysiad trwsio ar gyfer adeiladau sy'n anffit i bobl fyw ynddynt. Mae hysbysiad o dan adran 190 o Ddeddf 1985 yn hysbysiad trwsio ar gyfer adeiladau sydd, er eu bod yn ffit i bobl fyw ynddynt, ag angen trwsio sylweddol. Gellir cyflwyno hysbysiad adran 189 neu 190 yn pennu'r gwaith ar y rhannau cyffredin o adeilad i berson sy'n berchen ar y rhan honno o'r adeilad (neu'r adeilad cyfan) a ddylai, ym marn y Cyngor sy'n cyflwyno'r hysbysiad, gyflawni'r gwaith.

8.  Rhowch fanylion pob cais blaenorol am grant yr ydych yn gwybod amdano, ac unrhyw gyfraniad a hysbyswyd o dan gynllun trwsio grŵp (os yw'n hysbys i chi). Soniwch hefyd am unrhyw gymorth mân waith a chymorth trwsio cartref yr ydych wedi'i gael. Gall cymeradwyaethau grant blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer—a hefyd yn achos cymeradwyaethau blaenorol i geisiadau a wnaed gennych chi, a swm y grant sy'n daladwy.

9.  Gall caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fod yn ofynnol neu beidio. Os nad ydych yn sicr a oes angen caniatâd neu gymeradwyaeth, cysylltwch â'r adran berthnasol o'r Cyngor. Lle bo caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes wedi'i sicrhau, amgaewch gopi gyda'ch cais.

10.  O dan adran 37(4), ni ellir talu grant ond yn erbyn anfoneb, hawliad neu dderbynneb i dalu am y gwaith sy'n dderbyniol i'r Cyngor; ac nid yw anfoneb a roddwyd gennych chi neu aelod o'ch teulu yn dderbyniol. Felly, er enghraifft, lle byddwch chi neu aelod o'ch teulu yn gwneud y gwaith, bydd angen anfoneb (y gellir ei dilysu) oddi wrth drydydd parti am gost y deunyddiau.

Mae adran 98(1) yn diffinio “aelod o deulu” drwy gyfeirio at adran 113 o Ddeddf Tai 1985. Mae'r diffiniad yn cynnwys priod; personau sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig; rhieni; neiniau a theidiau; plant; wyrion a wyresau; brodyr, chwiorydd; ewythrod; modrybedd; neiaint; a nithod.

11.  O dan adran 39, gall y Cyngor dalu grant (neu ran o grant) naill ai'n uniongyrchol i'r contractiwr neu drwy siec a ysgriffennir i'r contractiwr ond a roddir i'r ceisydd grant. Ni all y Cyngor wneud hyn onid oeddent, cyn cymeradwyo'r cais am grant, wedi hysbysu'r ceisydd mai dyma fyddai neu allai fod y dull o dalu.

12.  O dan y Gorchymyn Grantiau Adnewyddu Tai (Gwasanaethau a Thaliadau) 1996 (O.S. 1996/2889), y gwasanaethau a'r taliadau rhagarweiniol neu atodol y gellir eu cynnwys mewn cais am grant yw: cost cadarnhad, os bydd y Cyngor yn ei geisio, fod gennych fuddiant perchennog yn yr eiddo; cost arolygon technegol a strwythurol; cost dylunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau; cost paratoi rhestri o'r gwaith perthnasol; cost cymorth wrth lenwi ffurflenni; cost cyngor ar ariannu cost y gwaith perthnasol nad yw'n cael ei dalu â grant; cost ceisiadau am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu neu ganiatâd cynllunio (gan gynnwys y ffi am y cais a pharatoi'r dogfennau cysylltiedig); cost sicrhau amcangyfrifon am y gwaith perthnasol; cost cyngor ar gontractau; cost ystyried tendrau; cost goruchwylio'r gwaith perthnasol; cost datgysylltu ac ailgysylltu cyfleustodau trydan, nwy, dŵr neu draeniad lle bo hyn yn ofynnol oherwydd y gwaith perthnasol (ond nid taliadau sy'n codi am na thalwyd biliau); a chost talu contractwyr.

Lle bo'r cais yn gais am grant cyfleusterau i'r anabl, gellir cynnwys gwasanaethau a thaliadau therapydd galwedigaethol mewn perthynas â'r gwaith perthnasol yn eich cais.

Os nad ydych yn sicr a ddylid cynnwys gwasanaeth neu daliad yn eich cais, gofynnwch i'r Cyngor am gyngor. Hefyd gweler nodyn 10 am y dogfennau y bydd ar y Cyngor eu heisiau oddi wrthych cyn y gallant dalu unrhyw grant.

13.  O dan adran 29, ni thelir grant fel rheol os ydych chi, neu unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau'r gwaith cyn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig i'r cais hwn. Gellir gwneud eithriad lle bo'r Cyngor yn fodlon bod yna resymau da dros ddechrau'r gwaith cyn i'r cais gael ei gymeradwyo; ond caiff y cais ei drin fel pe na bai'n cynnwys unrhyw waith sydd eisoes wedi'i gwblhau. Lle bo'r holl waith wedi'i gwblhau, ni chaniateir i'r Cyngor gymeradwyo'r cais.

Nid yw adran 29 yn gymwys i gymeradwyaeth grant ar gyfer gwaith sy'n ofynnol i beri bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi neu i gydymffurfio â hysbysiad o dan adran 189 neu 190 o Ddeddf Tai 1985; adran 29(5) a (6).

14.  Ystyr cais trosi, mewn perthynas â chais am grant atgyweirio, yw cais am waith i ddarparu un neu ragor o anheddau drwy drosi tŷ neu adeilad arall: adran 58.

Mae cais trosi'n cael ei drin fel cais perchen-feddiannydd os yw'n gais trosi i ddarparu dwy neu ragor o anheddau ac os oes unrhyw un o'r tystysgrifau sydd ynghlwm wrth y cais yn dystysgrif perchen-feddiant: adran 30(2). Ar gyfer tystysgrif perchen-feddiant, gweler nodyn 15.

15.  Mae tystysgrif perchen-feddiant (ar gyfer grant atgyweirio) yn ardystio—

(a)bod gennych fuddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad neu eich bod yn bwriadu ei sicrhau, a

(b)eich bod yn bwriadu y byddwch chi neu aelod o'ch teulu yn byw yn yr annedd fel eich unig neu eich prif breswylfa (neu unig neu brif breswylfa yr aelod hwnnw) drwy gydol y cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r Cyngor yn ardystio bod y gwaith wedi'i gwblhau er boddhad y Cyngor. Gweler adran 8(2).

16.  Ystyr cais landlord am grant cyfleusterau i'r anabl yw cais perchennog am waith ar annedd sy'n cael ei gosod neu y bwriedir ei gosod, neu ar y rhannau cyffredin o adeilad lle bo fflat yn cael ei gosod neu lle bwriedir ei gosod, gan y ceisydd/ceiswyr: adran 31(2).

17.  Landlord sy'n cymryd rhan yw landlord y mae ganddo fuddiant perchennog yn yr adeilad a dyletswydd neu bŵer i gyflawni unrhyw ran o'r gwaith perthnasol, ac sy'n ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin: adran 15(4).

Ni ddylai landlord sy'n cymryd rhan ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin drwy lenwi'r ffurflen hon, ond yn hytrach ffurflen (neu un o'r ffurflenni) a ddarperir gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer ceisiadau landlord. Ceir enghraifft o ffurflen a argymhellir ar gyfer ceisiadau landlord mewn perthynas â Chymru yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 59/96 y Swyddfa Gymreig neu, mewn perthynas â Lloegr, yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 17/96 Adran yr Amgylchedd, y mae'r awdurdodau yn rhydd i dynnu arni fel y gwelant yn dda.

18.  Mae tystysgrif o fwriad i osod (ar gyfer grant atgyweirio) yn ardystio eich bod chi (neu, yn achos cais tenant, y landlord)—

(a)yn meddu ar fuddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad, neu'n bwriadu ei sicrhau, a

(b)yn bwriadu, drwy gydol y cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r Cyngor yn ardystio bod y gwaith wedi'i gwblhau er boddhad y Cyngor, i'r annedd gael ei gosod neu y bydd ar gael i'w gosod fel preswylfa (ac nid ar gyfer gwyliau) i berson sydd heb fod yn gysylltiedig â pherchennog yr annedd am y tro. Gweler adran 8(3).

Yn (b), mae “gosod” yn cynnwys rhoi trwydded i feddiannu adeiladau, ond nid yw'n cynnwys gosod ar denantiaeth hir (tenantiaeth am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd): adran 8(4). O dan adran 98(2), mae person yn “gysylltiedig” â pherchennog annedd os yw ef/hi yn aelod o deulu'r perchennog (gweler nodyn 10) neu os oes ganddo/ganddi fuddiant buddiol yn yr annedd, neu yn y derbyniadau yn sgil gwerthu'r annedd, o dan ewyllys neu ymddiriedaeth.

19.  Mae tystysgrif tenant mewn perthynas â chais am grant atgyweirio yn ardystio:—

(a)eich bod yn denant yn yr annedd a'i bod yn ofynnol o dan eich tenantiaeth i chi wneud y gwaith, a

(b)eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn bwriadu byw yn yr annedd fel yr unig neu'r brif breswylfa i chi (neu i'r aelod hwnnw). Gweler adran 9(2).

Hefyd ynghlwm wrth gais tenant mae'n rhaid cael tystysgrif o fwriad i osod (gweler nodyn 18) oddi wrth y landlord. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad hwn os ydynt o'r farn ei fod yn afresymol mewn unrhyw achos penodol. Gweler adran 9(3).

20.  Dyma “fuddiannau'r perchennog” fel y'u diffinnir gan adran 101.

21.  Os ydych wedi cyfnewid contractau ar bryniad, rhowch y dyddiad y bydd y pryniad hwnnw yn cael ei gwblhau. Ni all y Cyngor gymeradwyo cais perchennog am grant atgyweirio nes eu bod yn fodlon eich bod wedi sicrhau buddiant perchennog.

22.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf” i gwestiynau 2A.3 a 2A.4, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Os na allwch ateb “Ydwyf” i un o'r cwestiynau hyn, ac na allwch wneud cais fel tenant (cwestiynau 2A.13 i 2A.19), peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn.

23.  Os ydych wedi ateb “Na fydd” i gwestiynau 2A.5 a 2A.6 ni ddylech fod yn gwneud cais am grant atgyweirio. Os na allwch ateb “Bydd” i'r un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn.

24.  Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi roi cynlluniau ac yn achos gwaith gwella neu drosi dylai'r rhain gynnwys cynlluniau o'r eiddo cyn ac ar ôl gwneud y gwaith.

25.  O dan adran 10, ni all y Cyngor ystyried y math hwn o gais perchennog am grant atgyweirio oni bai eu bod yn fodlon fod gennych fuddiant perchennog yn yr annedd drwy gydol y tair blynedd sy'n diweddu ar ddyddiad eich cais. Gall y Cyngor ddileu'r gofyniad hwn mewn achos penodol neu fathau penodol o achos.

26.  O dan adran 10, ni all y Cyngor ystyried y math hwn o gais perchennog am grant atgyweirio oni bai eu bod yn fodlon eich bod wedi byw yn yr annedd fel eich unig neu'ch prif breswylfa drwy gydol y tair blynedd sy'n dod i ben ar ddyddiad eich cais. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad hwn mewn achos arbennig neu fathau arbennig o achos.

27.  Os ydych yn berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo neu'n bwriadu ei brynu, neu os oes gennych neu os ydych yn bwriadu cymryd tenantiaeth gydag o leiaf 5 mlynedd o'r cyfnod eto i redeg, ni allwch wneud cais tenant. Yn hytrach, dylech ystyried gwneud cais perchennog.

28.  Dangoswch dystiolaeth o'ch rhwymedigaethau drwy amgáu gyda'ch cais gopi o'ch prydles neu'ch cytundeb tenantiaeth.

29.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf” i gwestiwn 2A.14, yna nid ydych yn gymwys i wneud cais tenant am grant atgyweirio: gweler adran 7(5)(a).

30.  O dan adran 10, ni all y Cyngor dderbyn cais tenant am grant atgyweirio oni bai eu bod yn fodlon eich bod yn denant cymwys yn yr annedd (h.y., eich bod yn un o denantiaid yr annedd a'i bod yn ofynnol o dan eich tenantiaeth i chi wneud y gwaith) drwy gydol y cyfnod o dair blynedd sy'n diweddu gyda dyddiad eich cais. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad hwn mewn achos penodol neu fathau penodol o achos.

31.  Ystyr y deiliad anabl, mewn perthynas â chais am grant cyfleusterau i'r anabl, yw'r person anabl y bwriedir gwneud unrhyw ran o'r gwaith perthnasol er eu lles: adran 20.

Mae adran 100 yn rhoi ystyr “person anabl” at ddibenion y ddeddfwriaeth grantiau adnewyddu tai.

32.  Os ydych wedi ateb “Nac ydyw” i gwestiynau (a) a (b) yng nghwestiwn 2B.2, ni allwch wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl.

33.  O dan adran 24, ffitrwydd eiddo i bobl fyw ynddo yw un o'r materion y gall y Cyngor eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu a fyddai'r gwaith addasu arfaethedig i'r anabl yn “rhesymol ac ymarferol” (sy'n un o ofynion yr adran). Lle bo'r eiddo yn anffit i bobl fyw ynddo a/neu mewn dadfeiliad difrifol, dylech ystyried gwneud cais am grant atgyweirio hefyd (sef y grant priodol ar gyfer gwaith i gywiro anffitrwydd neu ddadfeiliad) yn ogystal â grant cyfleusterau i'r anabl.

34.  O dan adrannau 21 a 22, ni chaniateir i'r Cyngor ystyried cais cyfleusterau i'r anabl oni bai bod “tystysgrif perchennog” (gweler nodyn 35) (yn achos cais perchennog), neu (yn achos cais tenant) bod “tystysgrif tenant” (gweler nodyn 36) a “thystysgrif perchennog” ynghlwm wrth y cais, mewn perthynas â'r annedd. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad i dystysygrif perchennog fod ynghlwm wrth gais tenant lle bônt o'r farn ei bod yn afresymol o dan yr amgylchiadau.

35.  O dan adran 21(2), mae “tystysgrif perchennog” mewn perthynas â chais am grant cyfleusterau i'r anabl yn ardystio bod gan y ceisydd—

(a)fuddiant perchennog cymwys yn yr eiddo y mae'r gwaith perthnasol i'w wneud yno, neu fwriad i sicrhau buddiant o'r fath, a

(b)bwriad y bydd y deiliad anabl yn byw yn yr annedd neu'r fflat fel ei unig neu ei brif breswylfa drwy gydol cyfnod amodau'r grant neu am y cyfryw gyfnod byrrach ag y bydd ei iechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn ei ganiatáu.

36.  O dan adran 22(2), mae “tystysgrif tenant” mewn perthynas â chais am grant cyfleusterau i'r anabl yn ardystio—

(a)mai cais tenant yw'r cais, a

(b)bod y ceisydd yn bwriadu y bydd ef (os ef yw'r deiliad anabl) neu'r deiliad anabl yn byw yn yr annedd neu'r fflat fel ei unig neu ei brif breswylfa drwy gydol cyfnod amodau'r grant neu am y cyfryw gyfnod byrrach ag y bydd ei iechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn ei ganiatáu.

37.  O dan adran 19(1)(b) a (5), at ddibenion y grant cyfleusterau i'r anabl, ystyr “tenant” yw rhywun sydd â thenantiaeth (heblaw tenantiaeth gydag o leiaf 5 mlynedd eto i redeg) a datgenir yn ddigamsyniol ei fod yn cynnwys—

tenant diogel o dan Ddeddf Tai 1985 neu denant rhagarweiniol o dan Ddeddf Tai 1996,

tenant statudol o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 neu Ddeddf Rhenti 1977,

deiliad a ddiogelwyd o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 neu berson mewn meddiant o dan ddaliadaeth amaethyddol sicr o dan Ddeddf Tai 1988, neu

trwyddedai gwasanaeth (h.y., rhywun sy'n meddiannu'r annedd er mwyn cyflawni eu dyletswyddau fel gweithiwr cyflogedig yn well).

Gweler hefyd nodyn 27.

38.  Rhowch ddogfennau i brofi'ch dyletswydd a/neu eich pŵer drwy amgáu gyda'ch cais gopi o'ch prydles, eich cytundeb tenantiaeth neu'ch cytundeb trwydded.

39.  Os nad oes gennych ddyletswydd na phŵer i wneud gwaith ar y rhannau cyffredin o'r adeilad, ni chewch wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl tuag at y cyfryw waith.

40.  Os nad oes gennych bŵer na dyletswydd na chaniatâd eich landlord i wneud gwaith ar y rhannau cyffredin, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl am waith ar y rhannau cyffredin o'r adeilad.

41.  Ni ddylai landlord sy'n cymryd rhan (gweler adran 15(4)) ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin drwy lenwi'r ffurflen hon, ond yn hytrach ffurflen (neu un o'r ffurflenni) a ddarperir gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer ceisiadau landlord o dan adran 31. Ceir ffurflen enghreifftiol a argymhellir ar gyfer ceisiadau landlord o dan adran 31 mewn perthynas â Chymru yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 59/96 y Swyddfa Gymreig neu, mewn perthynas â Lloegr, yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 17/96 Adran yr Amgylchedd, y mae'r awdurdodau yn rhydd i dynnu arni fel y gwelant yn dda.

Mae hyn yn gymwys hyd yn oed i landlordiaid sydd hefyd yn meddu ar denantiaeth ar fflat yn yr adeilad a'r denantiaeth yn un o fath a fyddai'n caniatáu iddynt ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin fel tenant. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech lenwi ffurflen gais landlord (sydd ar gael oddi wrth y Cyngor).

42.  O dan adran 14(2), at ddibenion grant rhannau cyffredin, ystyr “tenant mewn meddiant” yw person y mae ganddo mewn perthynas â'r fflat (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill)—

tenantiaeth hir ar rent isel y mae adran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 neu Atodlen 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddi,

tenantiaeth sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988,

tenantiaeth wedi'i diogelu o dan Ddeddf Rhenti 1977,

tenantiaeth ddiogel o dan Ddeddf Tai 1985,

tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 neu Ddeddf Rhenti 1977, neu

daliadaeth wedi'i diogelu o dan Ddeddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 neu ddaliadaeth amaethyddol sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988.

43.  Os ydych wedi ateb “Nage” i gwestiwn 2C.2 a “Nac oes” i gwestiwn 2C.3, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant rhannau cyffredin naill ai fel tenant neu fel landlord sy'n cymryd rhan.

44.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf/Nac oes” i gwestiwn 2C.5, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant rhannau cyffredin fel tenant. Os na allwch ateb “Ydwyf/Oes”, yna peidiwch ag ymuno â gwneud y cais hwn.

45.  Ni chaniateir i'r Cyngor ystyried cais tenantiaid am grant rhannau cyffredin oni bai bod tystysgrif sy'n cydymffurfio ag adran 16(2) yn cael ei chyflwyno gyda'r cais.

Mae tystysgrif adran 16(2) yn cael ei llofnodi gan bob un o'r ceiswyr ac—

(a)yn pennu buddiant pob un o'r ceiswyr ym mhob fflat yn yr adeilad, a

(b)yn ardystio bod y gyfran angenrheidiol (h.y., tri-chwarter) o'r fflatiau yn yr adeilad ym meddiant “tenantiaid mewn meddiant” (gwelir ystyr hynny yn nodyn 42).

46.  Amgaewch gopïau o unrhyw ddogfennau (e.e., eich prydles neu'ch cytundeb tenantiaeth) sy'n cynnwys neu sy'n cynnig tystiolaeth o'ch dyletswydd (neu, os ydych yn landlord sy'n cymryd rhan, eich dyletswydd neu'ch pŵer: gweler cwestiwn 2C.13). Os oes pobl eraill yn rhannu'ch dyletswydd (neu eich dyletswydd neu'ch pŵer), dywedwch faint o bobl sy'n gwneud hynny. At y diben hwn, dylid cyfrif buddiant a ddelir ar y cyd gan ddau neu ragor o bobl fel petai'n cael ei ddal gan un person.

47.  Os ydych wedi ateb “Nage” i gwestiwn 2C.8 a “Nac oes” i gwestiwn 2C.9, nid ydych yn gymwys i ymuno â chais rhannau cyffredin tenantiaid. Os na allwch ateb “Ie” neu “Oes” i un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn.

47A.  Diffinnir “plentyn” a “pherson ifanc” gan reoliad 2(1) o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (O.S. 1996/2890) fel a ganlyn:

— “plentyn”: person o dan 16 oed;

— “person ifanc”: person, heblaw rhywun sy'n cael cymhorthdal incwm neu sy'n derbyn addysg uwch (a ddiffinnir yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967)), 16 oed neu drosodd ond llai na 19 oed a drinnir fel plentyn at ddibenion adran 142 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

48.  Disodlwyd budd-dâl diweithdra a chymhorthdal incwm i bobl ddi-waith gan y Lwfans Chwilio am Waith (JSA) o 7 Hydref 1996 ymlaen. Disodlwyd budd-dâl diweithdra gan JSA sy'n seiliedig ar gyfraniadau a disodlwyd cymhorthdal incwm gan JSA sy'n seiliedig ar incwm.

Os ydych wedi ateb “Ydym” i gwestiwn 3.1 nid oes angen i chi ateb gweddill y cwestiynau yn Rhan 3 (prawf adnoddau). Hwyrach y bydd o gymorth i'r Cyngor brosesu'ch cais yn gynt os bydd pob person sy'n cael cymhorthdal incwm neu lwfans chwilio am waith sy'n seilieidig ar incwm yn llenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3. Er hynny, nid oes unrhyw rwymediageth i wneud hyn, a gallwch fynd yn syth i Rhan 4 yn lle hynny os ydych yn dymuno.

49.  Partner yw rhywun o'r rhyw arall sy'n byw gyda chi fel gŵr neu wraig p'un a ydych yn briod neu beidio.

Dylech ateb “Nac oes” i gwestiwn 3.2 os yw'r cyfryw berson sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debyg o barhau felly am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y person hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i'w rheolaeth ac yn annhebygol o fod yn sylweddol fwy na 52 wythnos.

50.  Os oes gennych fwy nag un partner, a chithau'n briod yn amlwreiciol neu'n aml-wraidd o dan gyfraith gwlad sy'n caniatáu'r cyfryw briodasau, dylech roi'r manylion y gofynnir amdanynt mewn perthynas â phob partner sy'n byw gyda chi, ac ateb cwestiynau 3.3 i 3.40 mewn perthynas â phob un ohonynt. Hefyd dylech sicrhau bod eich atebion i gwestiynau 3.14 i 3.19 yn cynnwys pob un o'r plant a'r personau ifanc yr ydych chi neu unrhyw un o'ch partneriaid yn gyfrifol amdanynt ac sydd fel rheol yn byw gyda chi.

51.  Hyd yn oed os buoch chi neu'ch partner yn alluog i weithio yn yr wythnosau diwethaf, mae'n dal yn bosibl eich bod yn gymwys am y “premiwm anabledd” os oes gennych chi neu'ch partner hanes hir o analluedd. Os credwch fod hyn yn gymwys i chi, dylech ateb “Nac ydwyf” neu “Nac ydyw” o hyd i'r cwestiwn hwn, ond rhowch y manylion llawn.

52.  Lle bo dau neu ragor o gyfnodau o analluedd wedi'u gwahanu gan fwlch neu fylchau a'r un ohonynt yn fwy na 56 diwrnod, trinnir y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor o analluedd.

53.  Mae person yn dioddef salwch terfynol os yw'n dioddef afiechyd cynyddol ac os yw'n rhesymol disgwyl y bydd farw cyn pen 6 mis o ganlyniad i'r afiechyd hwn. Lle bo dau neu ragor o gyfnodau o analluedd wedi'u gwahanu gan fwlch neu fylchau heb fod yn fwy na 56 diwrnod yr un, trinnir y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor o analluedd.

54.  Dylech ateb “Ydwyf” neu “Ydyw” i'r cwestiwn hwn os ataliwyd taliadau'r budd-dâl hwn i chi neu i'ch partner, neu os yw swm y budd-dâl wedi'i ostwng am eich bod chi neu'ch partner yn cael triniaeth am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg (ond nid carchar neu sefydliad cadw ieuenctid).

55.  Atebwch “Ydwyf” neu “Ydyw” i'r cwestiwn hwn mewn perthynas â chi neu'ch partner—

(a)os byddai gennych hawl i gael lwfans gofal i'r anabl oni bai am fudd-dâl sy'n gorgyffwrdd (h.y., budd-dâl anaf, atodiad anghyflogadwyedd, budd-dâl marwolaeth ddiwydiannol, budd-dâl marwolaeth pensiynau rhyfel, a lwfans hyfforddi); neu

(b)os ydych yn cael taliad consesiynol fel digollediad am nad oes lwfans gofal anabledd yn cael ei dalu; neu

(c)pe baech yn cael y lwfans, oni bai bod y person yr oeddech chi neu'ch partner yn gofalu amdanynt yn glaf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg am gyfnod o fwy nag 28 diwrnod.

56.  Atebwch “Ydwyf” neu “Ydyw” i'r cwestiwn hwn os daeth taliadau'r pensiwn hwn i chi neu'ch partner i ben yn sgil talu pensiwn ymddeol. (Ar ôl 12 Ebrill 1995, disodlwyd pensiwn anabledd gan fudd-dâl analluedd tymor-hir.)

57.  Atebwch “Ydwyf” neu “Ydyw” i'r cwestiwn hwn os daeth taliadau'r budd-dâl analluedd tymor-hir i chi neu'ch partner i ben yn sgil talu pensiwn ymddeol. (Ar ôl 12 Ebrill 1995, disodlwyd budd-dâl analluedd tymor-hir gan bensiwn anabledd am wythnos 53 ymlaen o analluedd person.)

58.  Atebwch “Ydwyf” neu “Ydyw” i'r rhan briodol o'r cwestiwn hwn os daeth taliadau'r budd-dâl analluedd tymor-byr i chi neu'ch partner ar gyfradd sy'n gyfartal neu sy'n uwch na'r gyfradd tymor-hir i ben yn sgil talu pensiwn ymddeol. (Ar ôl 12 Ebrill 1995, disodlwyd budd-dâl salwch a budd-dâl anabledd gan fudd-dâl analluedd tymor-byr ar gyfer wythnosau 1 i 52 o analluedd person.)

59.  Ystyr plentyn neu berson ifanc dibynnol yw rhywun:

sydd o dan 19 oed;

yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol amdanynt;

yr ydych chi neu'ch partner yn cael budd-dâl plant mewn perthynas â hwy, neu sy'n cael ei drin fel plentyn at ddibenion budd-dâl plant; ac

sydd fel rheol yn byw gyda chi.

Ni ddylech gynnwys unrhyw berson ifanc sy'n cael cymhorthdal incwm neu lwfans chwilio am waith sy'n seiliedig ar incwm.

Dylech ateb “Nac oes” os yw plentyn neu berson ifanc sydd fel rheol yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod felly am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y plentyn neu'r person ifanc hwnnw wedi codi o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i'w rheolaeth ac yn annhebygol o fod yn sylweddol fwy na 52 wythnos.

60.  Os ydych chi neu'ch partner yn cael cymhorthdal incwm neu lwfans chwilio am waith sy'n seiliedig ar incwm, nid oes angen i chi ateb cwestiynau 3.16 a 3.17.

61.  Peidiwch â chynnwys neb sydd o dan 16 oed neu sy'n dal mewn addysg amser llawn.

62.  Wrth gyfrifo'r nifer o oriau a weithir bob wythnos, dylech edrych ar y cylch diwethaf o oriau gweithio'r plentyn (os oes gan y plentyn gylch y gellir ei adnabod) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf, yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pan yw'r plentyn a fyddai fel arall yn gweithio ar absenoldeb mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith am eu bod yn sâl.

63.  Dylech gynnwys budd-daliadau, taliadau elusennol a gwirfoddol, a thaliadau cynhaliaeth.

64.  Nid oes angen i chi gynnwys lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl neu atodiad symud o gwmpas.

65.  Dylech gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

cynilion arian parod;

arian mewn cyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post;

Tystysgrifau Cynilion Gwladol a Bondiau Premiwm;

stociau, cyfranddaliadau ac unedau buddsoddi.

66.  Dylech gynnwys manylion unrhyw gyfalaf sy'n daladwy mewn rhandaliadau, gan gynnwys yn benodol gyfanswm unrhyw ran-daliad neu randaliadau sydd eto i'w talu.

67.  At y diben hwn, mae person yn byw gyda chi os ydynt yn rhannu ystafell neu ystaffeloedd heblaw ystafell ymolchi, toiled neu fan cymunedol gyda chi e.e. cyntedd; ond nid os ydych yn talu ar wahân i landlord am eich llety.

68.  Gall y Cyngor ofyn i chi roi tystiolaeth o enillion ar gyfer y 52 wythnos diwethaf mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth am dâl, ynghyd â manylion unrhyw daliadau cynllun pensiwn preifat a dalwyd yn yr un cyfnod.

Hefyd gall y Cyngor ofyn i chi roi tystiolaeth o'r holl incwm arall a gafwyd yn y 52 wythnos diwethaf.

69.  Os oes gennych bartner a chithau'n cael eich talu ar y cyd, fel pâr, rhowch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid y ddwy.

70.  Dylai tâl gros gynnwys bonws neu gomisiwn, goramser, tâl gwyliau, tâl salwch neu dâl mamolaeth.

71.  Ysytr “pensiwn galwedigaethol” yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol ond nid yw'n cynnwys unrhyw daliad dewisol o gronfa a sefydlwyd i leddfu caledi mewn achosion arbennig.

72.  Mae i “gynllun pensiwn personol” yr un ystyr ag yn adran 191 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 ac, yn achos enillydd hunan-gyflogedig, mae'n cynnwys cynllun sydd wedi'i gymeradwyo gan Fwrdd Cyllid y Wlad o dan Bennod IV o Ran XIV o Ddeddf Trethi Incwm a Threthi Corfforaethol 1988.

Ystyr “pensiwn personol” yw pensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn personol.

73.  Ystyr “contract blwydd-dâl ymddeol” yw contract neu gynllun ymddiriedaeth a gymeradwywyd o dan Bennod III o Ran XIV o Ddeddf Trethi Incwm a Threthi Corfforaethol 1988.

Ystyr “blwydd-dâl ymddeol” yw taliad cyfnodol o dan gontract blwydd-dâl ymddeol.

74.  Wrth gyfrifo'r nifer o oriau a weithir bob wythnos, dylech edrych ar y cylch diwethaf o'ch oriau gweithio (os oes gennych gylch y gellir ei adnabod) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf, yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pan yw'r person a fyddai fel arall yn gweithio ar absenoldeb mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith am eu bod yn sâl. Os ydych chi neu'ch partner yn gweithio mewn ysgol neu goleg neu mewn swydd lle ceir gwyliau ysgol neu gyfnodau tebyg pan na fyddwch chi neu'ch partner yn gweithio, dylech anwybyddu'r cyfnodau hyn—ac unrhyw gyfnodau eraill pan nad yw'n ofynnol i chi neu'ch partner weithio—wrth gyfrifo'r cyfartaledd o oriau a weithir bob wythnos.

75.  Rhowch gopïau o'r cyfrifon diweddaraf sy'n rhoi manylion eich hunan-gyflogaeth. Cynhwyswch fanylion unrhyw daliadau cynllun pensiwn neu flwydd-dâl ymddeol, a threth incwm, cyfraniadau yswiriant gwladol a TAW net a dalwyd. Ystyr “TAW net” yw'r gwarged o unrhyw dreth ar werth a dalwyd gennych mewn perthynas â chyflenwadau trethadwy a wnaed i chi, dros unrhyw dreth o'r fath a gafwyd gennych mewn perthynas â chyflenwadau trethadwy a wnaed gennych, wedi'i chyfrifo drwy gyfeirio at y 12 mis blaenorol.

76.  Rhowch y swm net os codir treth ar eich pensiwn neu'ch blwydd-dâl ymddeol.

77.  Ystyr hyn yw pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth Sosialwyr Cenedlaethol o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wnaed gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

78.  Telir pensiynau atodol i weddwon aelodau o'r lluoedd arfog, er enghraifft: (i) lle bo'r weddw yn 40 oed neu drosodd; (ii) lle na all ei chynnal ei hun; neu (iii) mewn perthynas â rhai o blant ei diweddar ŵr.

79.  Enwch unrhyw bensiwn cyfatebol a geir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad am nad oes pensiwn o'r fath yn cael ei dalu, ni waeth beth fo'i ffynhonnell.

80.  Ystyr hyn yw pensiwn sy'n daladwy i weddw o dan Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth Lluoedd Morol, Milwrol ac Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 1983 cyn belled â bod y Gorchymyn hwnnw wedi'i wneud o dan Ddeddf Tâl a Phensiynau Morol 1865 neu Ddeddf Pensiynau a Thâl Iwmoniaeth 1884, neu yn cael ei wneud o dan adran 12(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Amrywiol) 1977 yn unig ac unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi i wneud darpariaeth pensiwn ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau sydd wedi'u hanablu neu wedi marw o ganlyniad i wasanaeth fel aelodau o luoedd arfog y Goron.

Enwch unrhyw bensiwn cyfatebol a geir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad am nad oes pensiwn o'r fath yn cael ei dalu, ni waeth beth fo'i ffynhonnell.

81.  Gwneir y taliadau hyn i weddwon personau a laddwyd cyn 31 Mawrth 1973 ar wasanaeth yn cyfateb â gwasanaeth yn lluoedd arfog y Goron.

82.  O dan y Cynllun hwn, telir pensiynau a lwfansau i sifilwyr a anafwyd neu a laddwyd yn Rhyfel 1939–45 neu mewn perthynas â hwy.

83.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

lwfans gweini;

budd-dâl treth gyngor;

lwfans byw i'r anabl;

lwfans gwarcheidwad;

budd-dâl tai;

unrhyw lwfans chwilio am waith neu gymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 3.1 a 3.22);

taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw yn Annibynnol, y Gronfa Byw yn Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw yn Annibynnol (1993);

taliadau o'r Gronfa h.y., arian y trefnir ei fod ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “taliadau teithio i'r gwaith”;

taliadau'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Hefyd gellir anwybyddu rhai budd-daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrifo'ch incwm, ond er mwyn llenwi'r ffurflen hon ni ddylech hepgor ond y taliadau hynny a enwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a rhoi manylion llawn natur y taliad er mwyn i'r Cyngor benderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

84.  Ystyr atodiad enillion yw'r lwfans a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Cynllun Atodiad Enillion. Cynllun y tu allan i'r statudau yw'r Cynllun hwn ac nid yw'n gymwys ond mewn rhai rhannau o Brydain Fawr. Fe'i cyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol a daeth i rym ar 8 Hydref 1996.

85.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

unrhyw beth a restrwyd yn nodyn 83;

taliadau byrddio allan neu daliadau maethu a roddir gan awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu gorff gwirfoddol;

lwfans dechrau swydd;

taliadau “Rhan III” h.y., taliadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 17 neu 24 o Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;

taliadau a wneir i chi fel deiliad Croes Victoria neu Groes George.

Hefyd gellir anwybyddu rhai taliadau eraill wrth gyfrifo'ch incwm, ond er mwyn llenwi'r ffurflen hon ni ddylech hepgor ond y taliadau hynny a enwyd unchod. Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a rhoi manylion llawn natur y taliad er mwyn i'r Cyngor benderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

86.  Peidiwch â chynnwys taliadau a roddir i chi gan awdurdod iechyd, awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol am blant yr ydych yn gofalu amdanynt yn eich teulu.

87.  Ystyr hyn yw lwfans a delir i chi mewn perthynas â chymryd rhan mewn cynllun cydnabyddedig o hyfforddiant ieuenctid a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

88.  Gall y Cyngor ofyn i chi roi tystiolaeth o'r holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf arall.

89.  Os oes gennych bartner a bod gennych unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall ar y cyd, rhowch y manylion yn y naill neu'r llall o'r colofnau (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid y ddwy.

Os oes gennych unrhyw gyfalaf ar y cyd â phobl eraill heblaw'ch partner, cynhwyswch swm llawn y cyfalaf hwnnw (lle bo'n hysbys) a nodwch faint o bobl eraill sydd â chyfran ynddo.

90.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

budd-dâl treth gyngor;

budd-dâl tai, neu daliadau trosiannol budd-dâl tai;

taliadau “Rhan III” (gweler nodyn 86);

taliadau o'r Gronfa (gweler nodyn 83);

taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref a gynorthwyir o dan y Cynllun Gweithwyr Cartref Dall;

taliadau'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

unrhyw daliad a wneir i chi neu i'ch partner fel deiliad Croes Victoria neu Groes George; neu

unrhyw fonws dychwelyd i'r gwaith sy'n daladwy fel lwfans chwilio am waith neu gymhorthdal incwm yn unol ag adran 26 o Ddeddf Chwilio am Waith 1995, neu daliad cyfatebol o dan ethygl 28 o'r Gorchymyn Chwilio am Waith (Gogledd Iwerddon) 1995.

Hefyd gellir anwybyddu rhai mathau eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrifo'ch cyfalaf, ond er mwyn llenwi'r ffurflen hon ni ddylech hepgor ond y taliadau hynny a enwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn dylech ei gynnwys a rhoi manylion llawn natur y taliad er mwyn i'r Cyngor benderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

91.  Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo mewn gwlad dramor. Enwch ar wahân unrhyw dir yr ydych yn cael rhent amdano o dan brydles neu is-brydles sydd eisoes yn bodoli.

Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

eich cartref eich hun;

yr eiddo sy'n destun y cais hwn;

unrhyw eiddo a feddiannir gan berthynas oedrannus (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas ag analluedd, neu aelod o'ch teulu, fel eu hunig neu eu prif breswylfa. Ystyr “perthynas” yw unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni yng nghyfraith, llys-rieni, meibion, merched, meibion a merched yng nghyfraith, llys-feibion a llys-ferched, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, wyrion ac wyresau, modrybedd ac ewythrod, neiaint a nithod;

os ydych yn hunan-gyflogedig, asedau'ch busnes;

cyfalaf a weinyddir gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr neu'r Alban ar ran person o dan 18 oed, yn deillio o ddyfarniad iawndal am anaf personol i'r person hwnnw neu o iawndal am farwolaeth un o'r rhieni neu'r ddau riant.

Hefyd gellir anwybyddu rhai taliadau cyfalaf eraill wrth gyfrifo'ch cyfalaf, ond er mwyn llenwi'r ffurflen hon ni ddylech hepgor ond y taliadau hynny a enwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a rhoi'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor benderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

92.  Cyfraniad yw taliad yr ydych yn cael eich trin fel petaech yn ei wneud tuag at grant y myfyriwr, ni waeth a yw'r taliad yn cael ei roi i'r myfyriwr mewn gwirionedd neu beidio.

93.  Dylech ateb “Nac ydwyf” i'r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu'ch partner i blentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.15 a lle bo'r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu'r gofal.

94.  Yr ysgolion a'r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi'u hesemptio rhag cofrestru o dan adran 71 o Ddeddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 o'r Ddeddf honno yw:

(a)gan baragraff 3 o Atodlen 9—

ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;

ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;

ysgol y gwneir taliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â hi o dan adran 100 o Ddeddf Addysg 1944;

ysgol annibynnyol;

ysgol a gynorthwyir â grant;

ysgol a gynhelir â grant;

ysgol hunan-lywodraethol;

canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 o Ddeddf Addysg 1944;

lle bo'r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy'n cynnal y sefydliad fel rhan o'u gweithgareddau neu gan weithiwr cyflogedig iddo/iddi yn y sefydliad a awdurdodwyd i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad; a

(b)gan baragraff 4 o'r Atodlen honno—

cartref plant cofrestredig;

cartref gwirfoddol;

cartref cymunedol;

cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio'r meddwl y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;

un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd;

cartref a ddarperir, a gynhelir ac y darperir ei offer gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

lle bo'r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu'r person arall sy'n cynnal y sefydliad fel rhan o'u gweithgareddau neu gan weithiwr cyflogedig yn y sefydliad a awdurdodwyd i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad.

95.  Atebwch “Ydwyf” neu “Ydym” i'r cwestiwn hwn—

(1) os ydych chi, neu'ch partner, yn llai na 60 oed ac os bodlonir un neu ragor o'r amodau canlynol—

(a)eich bod chi neu'ch partner yn cael lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symud o gwmpas, budd-dâl analluedd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluedd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol dim ond lle caiff ei dalu mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);

(b)bod taliadau budd-dâl analluedd tymor-hir i chi neu'ch partner wedi dod i ben (neu, os yw paragraff (2) yn gymwys, fod pensiwn anabledd i chi neu'ch partner wedi dod i ben cyn 13 Ebrill 1995) yn sgil talu pensiwn ymddeol ac, yn achos eich partner, ei fod ef/ei bod hi yn dal yn aelod o'ch teulu;

(c)eich bod chi neu'ch partner yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond bod taliadau'r budd-dâl—

(i)wedi'u hatal o dan adran 113(2) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu

(ii)wedi'u hatal fel arall am eich bod chi neu'ch partner yn cael triniaeth am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg (ond nid lle'r ydych chi, neu ef/hi, yn treulio dedfryd o garchar neu gadwad mewn sefydliad cadw ieuenctid);

(d)y darperir cerbyd i'r anabl neu gerbyd arall i chi neu'ch partner neu grant at y cyfryw gerbyd, o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr neu'r Alban;

(e)eich bod chi neu'ch partner yn berson dall cofrestredig neu fod y cofrestriad wedi dod i ben heb fod yn fwy nag 28 wythnos yn ôl;

(f)(i)eich bod yn analluog i weithio o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu'n cael eich trin fel pe baech yn analluog i weithio; a

hefyd y bu gennych hawl i gael tâl salwch statudol neu y buoch yn analluog, neu'n cael eich trin fel pe baech yn analluog, i weithio am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn ddi-dor neu, os oes arnoch salwch terfynol, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn ddi-dor (cynhwyswch unrhyw gyfnod o analluedd a ddigwyddodd cyn 13 Ebrill 1995 sy'n bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng y cyfnodau o analluedd ac, ar ôl cwblhau'r cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu o gael lwfans hyfforddiant);

neu

(ii)eich bod chi neu'ch partner, yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod di-dor o heb fod yn llai nag 28 wythnos,

wedi rhoi tystiolaeth o analluedd yn unol â rheoliad 2 o'r Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth debyg yng Ngogledd Iwerddon) a oedd mewn grym ar y pryd i ategu cais am fudd-dâl salwch, pensiwn anabledd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (neu ddeddfwriaeth debyg yng Ngogledd Iwerddon) a oedd mewn grym ar y pryd, ar yr amod nad oes swyddog dyfarnu wedi penderfynu nad oeddech chi neu, fel y bo'n wir, eich partner yn analluog i weithio, neu

yn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a oedd mewn grym ar y pryd;

a chithau, neu, fel y bo'n wir, eich partner ers 13 Ebrill 1995 wedi parhau'n analluog i weithio yn unol â Rhan XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn ddi-dor (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluedd);

yn ddi-dor (cynhwyswch unrhyw gyfnod o analluedd a ddigwyddodd cyn 13 Ebrill 1995 sy'n bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng y cyfnodau o analluedd ac, ar ôl cwblhau'r cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu o gael lwfans hyfforddiant);

(2) os ydych chi neu'ch partner o dan 80 oed ond heb fod o dan 60 oed a bod un neu ragor o amodau (a) i (f) ym mharagraff (1) yn cael ei fodloni (ond yn achos amod (f)(i), ar ôl i chi gwblhau'r cyfnod cymhwyso, ni ellir anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu o gael lwfans hyfforddiant); neu

(3) pe bai paragraff (1) neu (2) yn gymwys i'ch partner, oni bai bod eich partner yn cael ei drin fel pe bai'n alluog i weithio yn ôl penderfyniad o dan adran 171E o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu

(4) os ydych wedi bod yn analluog, neu wedi cael eich trin fel pe baech yn analluog, i weithio o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o 196 diwrnod o leiaf (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluedd); neu

(5) os oes un neu ragor o'r canlynol (gan gynnwys y taliadau cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy i chi neu'ch partner:

(a)budd-dâl analluedd tymor-hir;

(b)budd-dâl analluedd tymor-byr ar y gyfradd uwch;

(c)lwfans gweini;

(d)lwfans anabledd difrifol;

(e)lwfans byw i'r anabl;

(f)cynnydd yn y pensiwn anabledd ar gyfer gweini cyson;

(g)cynnydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol ar gyfer gweini, gweini cyson, neu daliad sy'n cyfateb â lwfans byw i'r anabl; neu

(6) os oedd un o (5)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluedd chi neu analluedd eich partner ond wedi peidio â bod yn daladwy am eich bod chi neu am ei fod ef/ei bod hi'n cael triniaeth feddygol neu driniaeth arall am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty NHS neu sefydliad tebyg neu o dan drefniadau a wnaed gan gorff NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (sylwer: nid yw person sy'n treulio dedfryd o garchar neu gadwad mewn sefydliad cadw ieuenctid yn cyfrif fel “claf mewnol”); neu

(7) os darperir cerbyd i'r anabl neu gerbyd arall i chi neu'ch partner neu os ydych yn cael lwfans am gerbyd o'r fath (gan gynnwys lle darperir y cerbyd neu'r lwfans o dan ddedfwriaeth Gogledd Iwerddon).

96.  Fel rheol bydd y Cyngor yn gofyn am ddau amcangyfrif o gostau gwaith oddi wrth gontractwyr gwahanol; ond gallant ei gwneud yn ofynnol sicrhau mwy neu lai na dau amcangyfrif mewn unrhyw achos penodol. Dylai'r amcangyfrifon restru pob eitem. Gweler hefyd nodyn 10.

97.  Mae manylion unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu atodol yn fanylion ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau sydd wedi'u henwi yng nghwestiwn 1.16 (gweler nodyn 12). Cynhwyswch amcangyfrifon.

97.  Mae manylion unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu atodol yn fanylion ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau sydd wedi'u henwi yng nghwestiwn 1.16 (gweler nodyn 12). Cynhwyswch amcangyfrifon.”

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Drwy gyfrwng rheoliad 2, mae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiwn Gymraeg o ffurflen ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 y mae adran 30 o'r Ddeddf honno (prawf moddion yn achos cais gan berchen-feddiannydd neu denant) yn gymwys iddynt (ac eithrio ceisiadau landlordiaid am grant cyfleusterau i'r anabl). Pennwyd y fersiwn Saesneg gyfatebiad o'r ffurflen gan Reoliadau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Penodedig) 1996 (O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119 ac O.S. 1997/978). Mae Rheoliad 3 hefyd yn pennu'r manylion sydd i'w cynnwys yn y cyfryw geisiadau.

Mae'r Rheoliadau'n adlewyrchu rheolau profion moddion ar gyfer perchen feddianwyr a thenantiaid a gynhwysir yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890 a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119 ac O.S. 1997/977). O ran ei chynnwys, mae'r ffurflen a bennir yn Atodlen 1 yn gydgyfnerthiad ar y cyfan o Ffurflenni 1, 2 a 3 a bennwyd gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) 1994 (O.S. 1996/648) fel y'u diwygiwyd. O ran ei golwg, mae'r ffurflen yn wahanol i'r rhai a bennwyd o'r blaen, gan fod nifer o'r cwestiynau a'r nodiadau wedi'u hepgor neu wedi'u huno. Hefyd mae yna gwestiynau a nodiadau newydd sy'n adlewyrchu darpariaethau sy'n benodol i Ddeddf 1996 a newidiadau yn y rheolau ar fudd-daliadau tai (gan fod y prawf moddion ar gyfer ceisiadau perchen-feddianwyr a thenantiaid am grantiau adnewyddu tai yn seiliedig yn agos ar y prawf moddion ar gyfer budd-dâl tai).

Drwy gyfrwng rheoliad 4, nid yw'r Rheoliadau yn gymwys i geisiadau perchen feddianwyr a thenantiaid am grant a wnaed cyn i'r Rheoliadau ddod i rym.

(1)
See the definition of “prescribed” in section 101.

(2)
1996 c. 53.

(3)
1993 c. 38.

(4)
S.I. 1996/2891, amended by S.I. 1996/3119, 1997/978.

(5)
At ddibenion y ffurflen hon, mae cais perchennog am grant atgyweirio yn dod o fewn rheoliad (2)(a) os yw'n cynnwys cais trosi er mwyn darparu dwy neu ragor o anheddau ac os oes unrhyw un o'r tystysgrifau sydd ynghlwm wrth y cais yn dystysgrif o berchen-feddiant: adran 30(2).

(6)
Mae cais landlord am grant cyfleusterau i'r anabl yn gais perchennog mewn perthynas â gwaith ar annedd sy'n cael, neu y bwriedir iddi gael, ei gosod, neu ar rannau cyffredin adeilad lle ceir fflat sy'n cael ei gosod neu y bwriedir ei gosod: adran 31(2).

(7)
“Cais tenantiaid” yw cais a wneir gan o leiaf dri-chwarter o'r tenantiaid mewn meddiant (fel y'u diffinnir gan adran 14(2)) sydd o dan eu tenantiaethau o dan ddyletswydd i gyflawni, neu i gyfrannu mewn perthynas â chyflawni, rhywfaint neu'r cyfan o'r gwaith perthnasol: gweler adran 15(1)(b) a (2). Ni ddylai landlord sy'n cymryd rhan (gweler adran 15(4)) ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin drwy lenwi'r ffurflen yn yr Atodlen, ond yn hytrach ffurflen (neu un o'r ffurflenni) a ddarperir gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer ceisiadau landlordiaid o dan adran 31. Ceir ffurflen enghreifftiol a argymhellir ar gyfer ceisiadau landlord o dan adran 31, mewn perthynas â Chymru yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 59/96 y Swyddfa Gymreig neu, mewn perthynas â Lloegr, yn Atodiad J2 o Gylchylthyr 17/96 Adran yr Amgylchedd, sef ffurflen y mae'r awdurdodau yn rhydd i dynnu arni fel y gwelant yn dda.
Read Entire Law on www.legislation.gov.uk